Marjorie ElizabethHUGHES27ain o Fedi, 2020. Hunodd yn dawel yng nghwmni ei theulu yng Nghartref Nyrsio Glan Rhos, Brynsiencyn, Ynys Môn, gynt o Llain Siôr, Maenaddwyn, Llannerch-y-medd, Ynys Môn yn 78 mlwydd oed. Unig ferch y diweddar George a Violet Hughes; chwaer a chwaer yng nghyfraith annwyl Alan a Greta, Richard ac Ann, David a Cathryn a modryb ac hen fodryb arbennig iawn. Bydd yn golled enfawr i'w theulu a'i ffrindiau oll. Oherwydd y cyfyngiadau presennol, cynhelir gwasanaeth preifat i'r teulu yn unig ym Mynwent Llanfihangel Tre'r Beirdd, Capel Coch, Ynys Môn, ddydd Sadwrn, 3ydd o Hydref, 2020 am 11:00 o'r gloch y bore. Blodau gan y teulu yn unig, ond fe dderbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Tŷ Gobaith, Conwy ac Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog trwy law yr Ymgymerwr Arwyn Hughes, Bryn Hyfryd, Dulas, Ynys Môn, LL70 9PJ a'r Hen Fecws, Marian-Glas, Ynys Môn. Tel: 01248 410353 27th of September, 2020. Passed away peacefully in the presence of her family at Glan Rhos Nursing Home, Brynsiencyn, Anglesey, formerly of Llain Siôr, Maenaddwyn, Llannerch-y-medd, Anglesey, aged 78 years. Daughter of the late George & Violet Hughes; dearest sister and sister in law of Alan & Greta, Richard & Ann, David & Cathryn and a very special auntie and great auntie. Marjorie will be sadly missed by her family and many friends. Due to current restrictions, a private funeral service for the family will be held at Llanfihangel Tre'r Beirdd Cemetery, Capel Coch, Anglesey, Saturday, 3rd of October, 2020 at 11:00 am. Family flowers only but donations will be gratefully accepted towards Hope House, Conway and Plas Glyn y Weddw Gallery, Llanbedrog per Arwyn Hughes Funeral Director, Bryn Hyfryd, Dulas, Anglesey, LL70 9PJ a'r Hen Fecws, Marian-Glas, Anglesey. Tel: 01248 410353.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Marjorie